Llwy “cadwyn cariad” newydd sbon i ddathlu'r 50fed penblwydd priodas. Ar y llwy ceir dwy gloch sy'n symbol o briodas gariadus, ac oddi tano ceir y ffigwr 50 wedi'i gerfio'n gain i mewn i'r galon fawr, dau ddiemwnt a dwy galon fach. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas ar y ddwy galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu gan wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu'r penblwydd priodas.
Uchder: 34cm / 13"
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Achlysuron: Penblwydd Priodas 50
Cerdyn: Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
Dosbarthu cyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith).
Yr holl wybodaeth am ein Llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren