Bu llawer o drafod ynglŷn ag arwyddocâd y symbolau gwahanol a ddefnyddir wrth gerfio llwyau caru. Roedd llawer o'r cerfwyr ifanc yn swil ac yn amharod i ddangos eu hemosiynau, a byddai hyn yn ymgais i gyfleu eu gwir deimladau drwy ddefnyddio symbolau amrywiol. Dros y canrifoedd, mae llawer mwy o symbolau wedi cael eu hychwanegu, ac wrth i'r llwyau caru ddod yn fwy cymhleth ac addurnol, maent wedi dod yn eitemau i'w casglu.
![]() |
CLOCH | Priodas, neu dau gyda'i gilydd yn Gytun. |
![]() |
PEL MEWN CELL | Cariad wedi ei ddal yn ddiogel, neu, nifer o blant. |
![]() |
ADAR | Adar serch, neu gad i ni ymadael gyda'n gilydd. Mae'r storc yn cynrychioli genedigaeth newydd. |
![]() |
CADWYN | Awydd i fod ynghyd am byth, neu nifer o blant. |
![]() |
CROES | Ffydd yn lesu Grist, neu, Awydd i fôd ynghyd yng Ngrist . |
![]() |
DIAMWNT | Cyfoeth. |
![]() |
CALON | Serch. |
![]() |
PEDOL | Lwc dda. |
![]() |
ALLWEDD / TWILL CLO | Mae fy nghartref yn gartref i tithau hefyd. |
![]() |
CLO | Diogelwch, neu, mi ofalaf amdanat. |
![]() |
CWLWM, NEU, CLYMWAITH CELTAIDD. | Cariad tragwyddol, neu, Gyda'n gilydd yn dragywydd. |
![]() |
BONYN DIRDRO | Dau fywyd yn ymuno i fod yn un. |
![]() |
DRAIG | Symbol Cymru. |
Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Ein Casgliad Llawn - Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Gorffeniad a'r Pren