Llwyau Caru
Am ganrifoedd yng Nghymru mae Llwyau Caru wedi cael eu cerfio â llaw mewn pren gyda symbolau o gariad i'w rhoi fel anrhegion, ac mae'r traddodiad yn awr yn lledaenu'n gyflym o gwmpas y byd wrth i bobl chwilio am ffordd wirioneddol arbennig o ddathlu Priodas, Penblwydd Priodas, Dyweddiad, Pen-blwydd neu i ddweud Diolch.
Enwau am Ddim + Dosbarthu Cyflym: Mae Cadwyn yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim o losgi enwau, dyddiad a hyd yn oed negeseuon ar Lwy Garu o Gymru. Mae mor syml ac mor unigryw. Dewiswch o'r casgliad o Lwyau Serch Cymreig, ac ar y llwyau hynny lle mae'r gwasanaeth ar gael, nodwch yr hyn yr hoffech chi i ni losgi ar y llwy. Bydd eich rhodd yn hollol unigryw yn y byd ac yn helpu i wneud yr achlysur yn un arbennig iawn - Edrychwch ar rhai enghreifftiau o'n llosgysgrifennu yma. Anfonir pob archeb o fewn 2 ddiwrnod gwaith!
PWYSWCH YMA i weld ein casgliad helaeth o lwyau Caru o Gymru, ac i archebu arlein.
Hanes: Cychwynnodd yr arfer o gerfio a rhoi Llwyau Caru yng Nghymru gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Byddai dynion ifanc heddiw yn ôl pob tebyg yn prynu blodau, siocledi neu emwaith fel arwydd o anwyldeb. Ganrifoedd yn ôl yng Nghymru, yn ogystal â rhoi anrhegion o losin neu gacennau, byddent hefyd yn rhoi anrheg arbennig, mwy personol i wrthrych eu dymuniad, y Llwy Garu - Darllenwch hanes llawn y Lwy Garu yma.
Symbolau: Mae gan bob Symbol ystyr gwahanol. Bu llawer o drafod ynglŷn â arwyddocâd y gwahanol symbolau a ddefnyddir wrth gerfio llwyau caru. Roedd llawer o'r cerfwyr ifanc yn swil ac yn amharod i ddangos eu hemosiynau, a byddant felly yn ceisio cyfleu eu gwir deimladau trwy ddefnyddio gwahanol symbolau. Dros y canrifoedd, mae llawer mwy o symbolau wedi cael eu hychwanegu, ac wrth i'r Llwyau Caru fynd yn fwy cymhleth ac addurniadol, maent wedi dod yn rhywbeth i’w casglu - Edrychwch ar y ystyron y symbolau yma.
Cerfwyr a Phren: Creadigaethau grŵp o gerfwyr pren yng nghymoedd de Cymru, dan arweiniad Paul Curtis, yw ein casgliad o Lwyau Caru. Tyfodd Paul Curtis, brodor o Dde Cymru, i fyny mewn teulu o bedwar o blant. Darganfyddodd ei gariad a thalent am gerfio pren pan oedd yn ifanc iawn - Darllenwch fwy am y cerfwyr yma, ac am y pren a’r gorffeniad yma.